Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4
Dyddiad: Dydd Iau, 26 Hydref 2023
Amser:
09. -
11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13802
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Jayne Bryant AS Peredur Owen Griffiths AS (yn lle Luke Fletcher AS) Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Michael Kay, Llywodraeth Cymru Gareth McMahon, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Clerc) Angharad Era (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Rachael Davies (Ail Glerc) Philip Lewis (Ymchwilydd) Llinos Madeley (Clerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2 Daeth ymddiheuriadau i law gan Luke Fletcher AS.
1.3 Roedd Peredur Owen Griffiths AS yn dirprwyo ar ran Luke Fletcher AS.
2 Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) – Tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Michael Kay – Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Etholiadau
Gareth McMahon – Uwch Gyfreithiwr y Llywodraeth, Gwasanaethau Cyfreithiol
2.2 Cytunodd y Cwnsler Cyffredinol i gadarnhau pa weithdrefn a gaiff ei defnyddio i wneud yr is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol ar gyfer dileu'r gofrestr agored ar gyfer etholiadau Cymru.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Llythyr at Lywodraeth Cymru – Asedau cymunedol
3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Lywodraeth Cymru.
3.2 Llythyr at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip – Darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin / Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr
3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) – Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
6 Cyllideb ddrafft 2024-25 – Y dull o graffu
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar y Bil.